Yr afon a lifodd
rhwng nefoedd a llawr,
Yw sail fy ngorfoledd
a'm cysur yn awr;
Ar fynydd Calfaria,
caed concwest a hedd;
A 'Mhriod sy'n cadw
agoriad y bedd.
Dewch, bellach, dechreuwn,
mae'n ddigon o bryd,
I seinio caniadau
i Brynwr y byd;
Efe wnaeth y cymod
ac iddo bo'r clod,
Bydd canu am dano
tra'r nefoedd yn bod.
Ni gawsom y Cyfaill ffyddlonaf sy'n bod,
'R addewid a roddodd ni thorodd erioed;
Er byw'n ei ogoniant
yn nghanol y nef,
Mewn awr o gyfyngder
fe wrendy ein llef.
1,2,3,4,(5).
Yr afon a lifodd
rhwng nefoedd a llawr,
Yw gwraidd fy ngorfoledd,
a'm cysur yn awr;
Calfaria ro'es haeddiant,
Calfaria ro'es hedd,
Calfaria sy'n cadw
agoriad y bedd.
Mae angeu ei hunan,
ei ofnau a'i loes,
Mewn cadwyn gadarnaf
yn rhwym wrth dy groes;
Allweddau hen uffern
ddychrynllyd i gyd
Sy'n hongian wrth wregys
Iachawdwr y byd.
'Does dim at ostegu
pob terfysg a loes,
Cydwybod a'i dychryn,
ond angeu dy groes;
Can' miloedd o ofnau
oedd ynwy'n gyttûn
Nes clywed fod Crëwr
y ddaear yn ddyn.
Wel, bellach, boed i mi
roi ffarwel i'r byd,
Ffarwel i'w drysorau
a'i bleser ynghyd;
Un gorchwyl sydd genyf
fyth mwyach i gyd,
Sef caru a chanu
i Iachawdwr y byd.
Fy mywyd boed bellach
yn fywyd o ffydd,
Dy orch'mynion i'm henaid
yn bleser bob dydd,
Na boed genyf bleser byth
bellach tr'wy'i byw
Ond rhodio ar a ddaear
i foddio fy Nuw.
wregys :: ystlys 'Does dim at ostegu :: :: 'Doedd dim all'sai ostegu :: Nid oes a ostegai ynwy'n gyttûn :: yno'i yn gytûn boed i mi roi :: gad i mi roi
Yr afon a lifodd
rhwng nefoedd a llawr,
Yw gwraidd fy ngorfoledd
a nghysur i'n awr;
Calfaria roes haeddiant,
Calfaria roes hedd,
Calfaria sy'n cadw
agoriad y bedd.
O gyfoeth diderfyn, O gariad a gras,
A redodd fel afon lifeiriol i maes;
Gras daena i'r dehau
a'r dwyrain o'r bron,
Fe nofia myrddiynau i'r bywyd yn hon.
Wel rhedodd fy nghariad fel afon i maes,
At Brynwr addfwynaf cyfoethog ei ras,
Diflanwch wrthddrychau
aneirif eu rhi',
Mae Iesu ei hunan yn ddigon i mi.
Yr afon a lifodd
rhwng nefoedd a llawr,
Yw sail fy ngorfoledd
a'm cysur yn awr;
Ar fynydd Calfaria y tarddodd yr hedd,
Oddiyno daw 'nghoncwest
ar angeu a'r bedd.
Fy enaid, gwel gariad yn fyw ar y pren,
Ac uffern yn methu darostwng ei ben;
Er marw fy Iesu,
er hoelio fy Nuw,
Parhaodd ei gariad trwy angeu yn fyw.
O! gyfoeth diderfyn! O! gariad a gras!
A redodd fel afon lifeiriol i maes:
Mae'n llifo trwy'r ddaear
yn ddysglaer a llon,
Fe nofia myrddiynau i'r bywyd yn hon.
1,2,3,(4).
Yr afon a lifodd
rhwng nefoedd a llawr,
Yw gwraidd fy ngorfoledd
a 'nghysur yn awr:
Ar fynydd Calfaria y tarddodd yr hedd,
A 'Mhriod sy'n cadw
agoriad y bedd.
O gyfoeth di derfyn o ras ac o Ddawn,
A redodd fel afon lifeiriol yn llawn!
Mae'n llifo trwy'r ddaear
yn ddysglaer a llon,
Fe nofia myrddiynau i'r bywyd yn hon.
Y clod, y gogoniant,
y gallu o bob rhyw,
A redo fel moroedd i enw fy Nuw;
Y dechreu a'r diwedd
o'r ddaear i'r nef,
O ras ac o haeddiant yn gyfan yw Ef.
Fy mywyd boed bellach
yn fywyd o ffydd,
D'orch'mynion i'm henaid
yn bleser bob dydd;
Na foed genyf bleser
tra fyddwyf fi byw,
Ond rhodio ar y ddaear
i foddio fy Nuw.
Yr afon a lifodd
rhwng nefoedd a llawr,
Yw sail fy ngorfoledd
a'm cysur i nawr:
Ar fynydd Calfaria
y tarddodd yr hedd,
Oddi yno mae nghoncwest
dros angeu â'r bedd.
O gyfoeth ddi-derfyn o ras ac o ddawn,
A redodd fel afon lifeiriol yn llawn;
Mae'n llifo trwy'r ddaear,
yn ddisglaer a llon,
Fe nofia myrddiynau i'r bywyd yn hon.
Fy mywyd boed bellach,
yn fywyd o ffydd,
D'orch'mynion i'm henaid,
yn bleser bob dydd;
Na foed im' hyfrydwch
tra fyddwyf yn byw,
Ond rhodio ar y ddaear
i foddio fy Nuw.
Cawn gyd â'n hanwylyd,
deyrnasu mewn hedd,
Ymhell uwch gyrhaeddiad
holl ddychryn bedd;
Cawn wisgo coronau
yn filoedd ynghyd,
A chanmol byth bythoedd
Iachawdwr y byd.
William Williams 1717-91
Tonau [11.11.11.11]: gwelir: Mae'n bryd i ni ganu ni gawsom y fraint Mi ge's y Ffrynd goreu fyth fyth all'sai fod Yr Arglwydd a'm carodd i'n rhyfedd erioed |
The river which flowed
between heaven and earth,
Is the basis of my jubilation
and my comfort now;
On mount Calvary,
a conquest and peace were got;
And it is my Spouse who is keeping
the keys of the grave.
Come ye, henceforth, let us begin,
there is sufficient time,
To sound songs
to the Redeemer of the world;
He made the reconciliation
and to him be the praise,
There will be singing about him
while ever heaven is.
We got the most faithful friend there is,
The promise he gave shall never be broken;
Although living in his glory
in the middle of heaven,
In an hour of straits
he will listen to our cry.
The river which flowed
between heaven and earth,
Is the root of my jubilation
and my comfort now;
Calvary gave merit,
Calvary gave peace;
Is is Calvary that is keeping
the keys of the grave.
In death itself,
its fears and its anguish,
In strongest chains
bound to thy cross;
All the keys of old,
horrific hell
Are hanging on the belt
of the Saviour of the world.
There is nothing to calm
every tumult and anguish,
Conscience with its horror,
but the death of the cross;
A hundred thousand fears
were in me in agreement
Until hearing that the Creator
of the earth is a man.
See, henceforth, may I
bid farewell to the world,
Farewell to its treasures
and its pleasures altogether;
One task I have
for ever and ever,
That is to love and sing
to the Saviour of the world.
May my life be henceforth
a life of faith,
Thy commandments to my soul
a pleasure every day,
May I not have a pleasure ever
henceforth while I live
Except to walk on the earth
to please my God.
belt :: side There is nothing to calm :: :: Nothing could calm :: There is nothing that would calm :: ::
The river which flowed
between heaven and earth,
Is the root of my jubilation
and my comfort now;
Calvary gave merit,
Calvary gave peace;
Is is Calvary that is keeping
the keys of the grave.
Oh, endless wealth, oh love and grace,
Which ran like a river streaming out;
Grace spreads to the south
and the utmost east,
Myriads will swim to life in it.
See my love ran out like a river,
To the dearest Redeemer rich in grace,
Disappear, ye objects
unnumbered in their number,
Jesus himself is sufficient for me.
The river which flowed
between heaven and earth,
Is the basis of my jubilation
and my comfort now;
On mount Calvary sprang the peace;
From it comes conquest
over death and the grave.
My sou, see love living on the tree,
An hell failing to subdue his head;
Although my Jesus dies,
although nailing my God,
His love endured through death alive.
Oh, endless wealth! Oh, love and grace!
Which ran like a river streaming out:
It is flowing through the earth
clear and cheerful,
Myriads will swim to life in it.
The river which flowed
between heaven and earth,
Is the root of my jubilation
and my comfort now;
On mount Calvary sprang the peace;
And it is my Spouse who is keeping
the keys of the grave.
Oh, endless wealth! Oh, love and grace!
Which ran like a river streaming out:
It is flowing through the earth
clear and cheerful,
Myriads will swim to life in it.
The praise, the glory,
the power of every kind,
Shall run like seas to the name of my God;
The beginning and the end
of the earth and heaven,
Of grace and of virtue entirely is He.
May my life be henceforth
a life of faith,
Thy commandments to my soul
a pleasure every day,
May I not have a pleasure
while ever I live
Except to walk on the earth
to please my God.
The river that flowed
between heaven and earth,
Is the basis of my jubilation
and my comfort now:
On the mountain of Calvary
sprang the peace,
From there is the conquest
over death and the grave.
O endless wealth of grace and of gift,
That ran full like a streaming river;
It flows through the earth,
radiant and cheerful,
Myriads shall swim to life in this.
May my life henceforth be
a life of faith,
Thy commandments to my soul
pleasure every day;
May there be no delight for me
while ever I am living,
But walking on the earth
to please my God.
I shall get with the beloved,
to reign in peace,
Far above the reach of all
the horror of the grave;
I shall get to wear crowns
in thousands altogether,
And praise forever and ever
the Saviour of the world.
tr. 2015,19 Richard B Gillion
|
|